Terminoleg y byddwch yn ei chlywed o bosib wrth weithio gyda’r Diwydiant Teithio

FIT

Ystyr FIT yw ‘Taith Gwbl Annibynnol’ (‘Fully Independent Tour’) neu ‘Deithiwr Annibynnol Hyblyg’ (‘Flexible Independent Traveller’) ac mae’n cynnwys unrhyw fath o deithiwr, fel unigolyn, pâr neu deulu ac ati, sy’n archebu drwy asiant ond sydd ddim yn teithio fel grŵp. Mae angen help gwybodaeth a phrofiad y Diwydiant Teithio arnyn nhw i drefnu ac archebu’r gwyliau / llety / pethau i’w gwneud. Mae hon yn duedd sy’n tyfu ym mhob marchnad, yn enwedig gyda’r cynnydd mewn archebu ar-lein.

Beth sydd ei angen ar gwmnïau?
Cyfraddau FIT neu gomisiwn gan eu bod nhw’n gallu creu llawer iawn o fusnes drwy gydol y flwyddyn.

Er hynny, mae angen hyblygrwydd er mwyn i gwsmeriaid allu dewis pryd i archebu yn hytrach na’u cyfyngu i ddiwrnod, wythnos neu fis penodol.

Cynnyrch addas o Gymru:
Gall unrhyw un sydd â chynnyrch i’w gynnig, sydd eisiau mwy o archebion ac sy’n fodlon cynnig cyfraddau weithio gyda theithwyr FIT.

Grwpiau

Mae grŵp yn golygu cwsmeriaid sy’n teithio mewn grŵp. Efallai eu bod yn adnabod ei gilydd (e.e. clybiau â diddordebau arbennig) neu gallant fod yn unigolion / parau neu deuluoedd sydd wedi prynu pecyn / taith sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw, gyda manylion y daith i gyd wedi’u trefnu. Bydd y grŵp yn teithio gyda’i gilydd ac yn aros yn yr un gwesty, yn aml yn ymweld â’r un atyniadau neu’n gwneud yr un gweithgareddau. Bydd y gyfradd fel arfer yn dechrau gyda 10 neu 15 o bobl.

Beth sydd ei angen ar gwmnïau?
Cyfraddau grŵp gan ddibynnu ar faint y grŵp a’ch bod chi fel busnes yn gallu negodi hyn.

Cynnyrch addas o Gymru:
Gan ddibynnu ar faint y grŵp, ni fydd rhai mathau o gynnyrch a gwasanaethau’n addas ar gyfer y farchnad grwpiau. Wrth farchnata’ch hun i’r Diwydiant Teithio, dylech wastad nodi grŵp o ba faint y gallwch ddarparu ar ei gyfer.

Prisio

Mae’n bosib eich bod yn meddwl erbyn hyn ei bod hi’n mynd i gostio i chi weithio â’r Diwydiant Teithio gan y bydd angen i chi gynnig comisiwn a chyfraddau net / arbennig. Er mwyn i’r Diwydiant Teithio allu llwyddo, mae angen i’r cwmnïau sy’n gwerthu’ch cynnyrch neu wasanaeth ar eich rhan wneud elw hefyd. Fel arfer, ni fydd angen i chi dalu comisiwn neu gynnig pris disgownt tan i’r cwmni werthu’ch cynnyrch. Mae’n gyfle i’ch cynnyrch gyrraedd cynulleidfa fwy am ychydig iawn o gost ychwanegol.

Comisiwn / Cyfraddau Net y Diwydiant Teithio

Y comisiwn yw’r tâl a delir i’r cwmni sydd wedi gweithio i farchnata, dosbarthu a gwerthu’ch cynnig neu wasanaeth. Mae’n talu am ddarparu’r gwasanaethau hynny ichi. Canran o’r pris gros yw’r comisiwn yn aml.

Cyfraddau Grŵp

Dyma’r cyfraddau rydych chi’n eu cynnig i gwmni sy’n dod â grŵp i’ch cynnyrch neu wasanaeth. Hwn fel arfer fydd y ‘gyfradd net’ (y gyfradd cyn y swm ychwanegol fydd yn elw wrth ei werthu i’r cyhoedd).

Cyfraddau FIT

Wrth drefnu taith FIT, bydd cwmnïau teithio’n gofyn am bris net. Er mai dim ond un person, pâr neu deulu fydd yn archebu ar y tro, dros y flwyddyn, gallai’r cwmni drefnu llawer o archebion o’r fath i’ch cynnyrch / gwasanaeth.

Am faint fydd eich prisiau’n para?

Bydd cwmnïau teithio’n trafod prisiau eu teithiau / gwyliau fel arfer ryw 2 flynedd ymlaen llaw a byddan nhw’n pennu prisiau eu teithiau yn unol â hynny. Dylech ystyried hynny wrth ichi benderfynu faint i’w godi gan y bydd codiad ym mhris y llety / mynediad yn effeithio ar eu helw.

Mwy o jargon - jargoniadur Cymraeg

Straeon Perthnasol